SL(6)140 - Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022
Cefndir a diben
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 ("Rheoliadau 2003") yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer diwrnod ysgol a rennir fel arfer yn ddwy sesiwn gydag egwyl yn y canol, ac i ysgolion (ac eithrio ysgolion meithrin) gyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 i leihau isafswm nifer y sesiynau ysgol y mae rhaid eu cynnal yn y flwyddyn ysgol 2021-2022 o 380 i 378. Diben lleihau isafswm nifer y sesiynau ysgol yw sicrhau bod ysgolion yn elwa ar yr ŵyl banc ychwanegol sy’n digwydd yn ystod y gwyliau hanner tymor ar 3 Mehefin 2022 i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Caiff ysgolion ddewis, yn unol â chytundeb â’i awdurdod lleol, pryd i gau am ddiwrnod ychwanegol oherwydd bod yr ŵyl banc ychwanegol wedi’i amserlennu ar gyfer gwyliau hanner tymor y Sulgwyn.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol)(Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 a wnaeth ddiwygiadau i Reoliadau 2003 mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol 2020-2021.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3 (ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Nodir yr effaith negyddol bosibl ar deuluoedd, yn enwedig y rhai mewn tlodi (a allai godi mewn achosion lle mae angen gofal plant ychwanegol ar gyfer y lleihad mewn amser ysgol), ym mharagraffau 7.7 o'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau. Mae paragraffau 7.8 a 7.9 yn egluro’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o ran cydraddoldebau:
7.7 Gallai grwpiau sydd o dan anfantais a grwpiau sy’n agored i niwed deimlo effaith negyddol colli diwrnod o addysg. Gall teuluoedd sy’n byw mewn tlodi neu y mae eu hincwm yn dibynnu ar yr oriau y maent yn ei weithio mewn gwirionedd ei chael hi’n anodd i gael gofal plant am y diwrnod ychwanegol hwn.
7.8 Gofynnodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ac ysgolion roi rhybudd cynnar am y newid i ddyddiadau’r tymor er mwyn rhoi digon o amser i rieni gynllunio ar gyfer unrhyw anghenion gofal plant ar gyfer y diwrnod ychwanegol.
7.9 Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i gydymffurfio â rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 drwy gynnal asesiadau effaith a sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o’u dyletswyddau statudol, drwy ddarparu’r nifer gofynnol o sesiynau yn yr ysgol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2 Chwefror 2022